Bydd apwyntiad Pension Wise am ddim yn esbonio'r holl ffyrdd y gallwch gymryd arian o'ch pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, gan gynnwys yr opsiwn o brynu blwydd-dal.
Trefnwch apwyntiad Pension Wise am ddim
Mae'n syniad da i gynllunio sut y byddwch yn cymryd eich pensiwn nifer o flynyddoedd cyn i chi ymddeol er mwyn i chi allu deall eich opsiynau a gwneud unrhyw newidiadau i roi hwb i'ch incwm.
Sut i gymryd eich pensiwn: canllaw cam wrth gam
Gall sut a phryd y byddwch yn cymryd eich pensiwn effeithio ar ba mor gyfforddus y bydd eich ymddeoliad. Gall ymgynghorydd ariannol sydd wedi'i reoleiddio eich helpu i gynllunio at ymddeol, gan gynnwys dweud wrthych a fydd blwydd-dal yn iawn ar eich cyfer chi.
Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd pensiwn neu ymddeoliad